Cwestiynau cyffredin
Bydd tocynnau penwythnos y Ship ar werth ar 1 Mawrth trwy ein gwefan yn unig. Bydd tocynnau ar gyfer gigs unigol yn Eglwys y Santes Fair a Clwb Rygbi Dolgellau ar werth ar ein gwefan ac mewn person yn Tŷ Siamas, Dolgellau, o 1 Mawrth.
Cysyllta â swyddogdatblygu@sesiwnfawr.cymru gydag unrhyw ymholiadau tocynnau.
Does dim tocyn diwrnod ar gyfer gigs prif lwyfan y Ship. Ond mi alli di archebu tocyn unigol ar gyfer gigs y Clwb Rygbi ac Eglwys y Santes Fair sydd yn rhedeg o nos Iau 18/7 - nos Sul 21/7. Does dim angen tocyn i fwynhau’r arlwy ar lwyfan y Sgwâr a thafarndai’r dref ar y prynhawn Sadwrn 20/7.
Dylet ti dderbyn dau ebost gan tickettailor wrth i ti archebu - bydd yr ebost cyntaf yn cadarnhau dy archeb, ar ail yn cynnwys dy e-docyn ar ffurf QR. Galli di arbed hwn i dy ffôn, neu ei argraffu i ddod hefo ti ar y penwythnos. Cofia ddefnyddio cyfeiriad ebost fyddi di’n dal i’w ddefnyddio erbyn Gorffennaf! Os na fyddi di wedi derbyn dy docyn o fewn 24 awr i archebu - cysyllta â swyddogdatblygu@sesiwnfawr.cymru.
Wel, yn Nolgellau. Yn dilyn traddodiad yr ŵyl, bydd y Sesiwn Fawr yn cael ei chynnal ar draws amrywiol lwyfannau tafarndai a busnesau’r dref. Os wnei di anelu at ganol y dref / Sgwâr Eldon - wnei di ddim ei methu!
Galli ddod ar fws, trên neu mewn car - edrycha YMA am ragor o fanylion
Bydd Sesiwn Fawr Dolgellau 2024 yn dechrau hefo cyngerdd agoriadol gyda Meinir Gwilym a Pedair yn Egwlys y Santes Fair, 19:30 nos Iau 18 o Orffennaf 2024. Bydd y dathliadau’n parhau hyd nos Sul 21 Gorffennaf. Cadwa lydad ar ein amserlen am ragor o fanylion.
Y maes parcio mwyaf, a mwyaf cyfleus yng nghanol y dref yw Y Marian Mawr (LL40 1UU). Llai na’ 5 munud ar droed o lwyfannau’r dref a’u bwrlwm.
Ydyn - mae nhw’n derbyn taliadau cerdyn ac arian parod. Mae twll yn y wal HSBC wedi ei leoli ar y Sgwâr hefyd.